Mae cyn-blismon gyda Heddlu Surrey yn gwadu saith cyhuddiad o dreisio, gan gynnwys un achos honedig tra ei fod e ar ddyletswydd.

Mae Derek Seekings, 64 oed o Farnborough, wedi’i amau o droseddau rhwng 1994 a 2000.

Fe wadodd yr holl gyhuddiadau yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Guildford heddiw (dydd Llun, Medi 16).

Fe wnaeth e ymddeol o’r heddlu yn 2005.

Mae disgwyl iddo fe fynd gerbron Llys y Goron Lewis ar Fai 11 y flwyddyn nesaf.