Mae Boris Johnson a Jean-Claude Juncker yn cael gwledd o falwod, eog a chaws wrth iddyn nhw gyfarfod yn Lwcsembwrg i drafod Brexit.

Dyma’r tro cyntaf i bennaeth yr Undeb Ewropeaidd gyfarfod â Boris Johnson ers iddo olynu Theresa May yn brif weinidog Prydain.

Le Bouquet Garni yw lleoliad y cyfarfod, ac mae’n rhan o blasty o’r ddeunawfed ganrif ac nid yn un o adeiladau’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl iddyn nhw drafod y posibilrwydd o gytundeb newydd, ond mae lle i gredu o hyd fod hynny’n annhebygol, wrth i fater ffiniau Iwerddon barhau’n asgwrn y gynnen yn y trafodaethau.

Y bwyty

 Mae’r bwyty, sydd wedi’i gymeradwyo gan Michelin, yn “llawn hud” yn ôl y disgrifiad ohono.

Ar y fwydlen fwyaf drud, gall prydau gostio hyd at 55 ewro, neu £48.

Ymhlith y prydau mwyaf drud mae foie gras, filed o gig eidion gydag ffondant afal a madarch, a crème brulée i bwdin.

Mae protestwyr sydd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd wedi ymgynnull y tu allan i’r bwyty i leisio eu dicter ac i alw am ail refferendwm.