Dydy tua 5% o weithwyr gwledydd Prydain ddim yn derbyn tâl am wyliau, yn ôl ymchwil gan y Resolution Foundation.

Maen nhw’n dweud hefyd nad yw tua 10% yn derbyn slip cyflog, wrth iddyn nhw dynnu sylw at arferion gwaith anghyfreithlon.

Gweithwyr dros 65 oed sydd yn fwyaf tebygol o beidio â derbyn tâl am wyliau, er bod ganddyn nhw hawl i 28 diwrnod y flwyddyn os ydyn nhw’n gweithio’n llawn amser, neu fesul pro-rata i weithwyr rhan amser.

Mae’r rhai dros 65 oed hefyd yn fwy tebygol na gweithwyr iau o ennill llai na’r isafswm cyflog.

Gweithwyr mewn gwestai a bwytai yw’r rhai sy’n dioddef fwyaf o ran colli hawliau gwaith, ynghyd â gweithwyr cwmnïau sy’n cyflogi llai na 25 o bobol, a gweithwyr ar gytundebau oriau sero a chytundebau dros dro.

Mae’r Resolution Foundation yn galw am weithredu’r rheolau’n fwy llym er mwyn gwella amodau i weithwyr.

‘O blaid y lleiafrif, nid y mwyafrif’

Yn dilyn yr ymchwil, mae’r Blaid Lafur yn cyhuddo’r Llywodraeth Geidwadol o weithredu “o blaid y lleiafrif, nid y mwyafrif”.

“Dyma’r dystiolaeth,” meddai Laura Pidcock, llefarydd busnes yr wrthblaid yn San Steffan.

“Y tu ôl i’r ystadegau hyn mae yna nifer o oriau o waith llawn straen a blinder, a bywydau pobol yn y cartref yn cael eu gwneud gymaint yn fwy anodd nag y mae angen iddyn nhw fod, dosbarth o benaethiaid gwael nad ydyn nhw’n cael eu gwirio, a lluoedd o weithwyr sy’n teimlo fel pe na bai ganddyn nhw ddewis ond derbyn amodau gwael anghyfreithlon.”