Liam Fox
Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ystyried holi Adam Werritty, ffrind agos y cyn Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox ynglyn â honniadau o dwyll.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dinas Llundain bod “swyddogion o’r adran trosedd economaidd yn ystyried y mater er mwyn penderfynu os yw’n briodol i gynnal ymchwiliad”.
Mae’r aelod seneddol Llafur, John Mann wedi gofyn i’r heddlu ymchwilio i honniadau bod Mr Werritty wedi twyllo wrth ddefnyddio cardiau busnes pan roedd yn honni ei fod yn gynghorydd i Mr Fox.
Dywedir bod Mr Werritty wedi derbyn arian gan nifer o gefnogwyr ariannog yn ystod y cyfnod yma.
Ymddiswyddodd Dr Fox o’r Cabinet yn dilyn pwysau am ei berthynas efo Mr Werritty.