Mae polau piniwn newydd yn awgrymu y gallai’r Deyrnas Unedig fel y mae hi ddod i ben.

Yn ôl pôl piniwn BMG ar ran y papur newydd The Independent, mae 45% o drigolion Lloegr, Cymru a’r Alban yn credu y dylid rhoi’r hawl i’r Alban gynnal ail refferendwm annibyniaeth, gyda dim ond 30% yn gwrthwynebu’r syniad.

Wrth gynnwys y rhai sy’n ansicr, mae cefnogaeth i refferendwm annibyniaeth yn codi i 60%.

Cafodd 1,504 o bobol eu holi.

Ar fater ffiniau Gogledd Iwerddon, roedd mwy na’u hanner o blaid cynnal pleidlais ar ôl Brexit i benderfynu a ddylai’r wlad aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig neu ymuno ag Iwerddon.

Mae 52% o blaid refferendwm ar ffiniau Iwerddon, a dim ond 19% yn erbyn. Ond unwaith eto, wrth ychwanegu’r rhai sy’n ansicr, mae’r ffigwr yn codi i 73% o blaid a dim ond 27% yn erbyn.

SNP yn croesawu’r canlyniadau

Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn croesawu canlyniadau’r polau piniwn, gan ddweud eu bod yn “sylweddol”.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, eisoes wedi dweud ei bod hi o blaid cynnal ail refferendwm annibyniaeth yn 2020 yn sgil Brexit.

“Mae hwn yn bôl sylweddol i’r mudiad annibyniaeth, gan ddangos bod y mwyafrif o bobol ledled y Deyrnas Unedig, ac nid yr Alban yn unig, yn credu y dylai’r Alban gael dewis ei dyfodol ei hun,” meddai Ian Blackford.

“O’r pôl hwn, mae’n amlwg y dylai’r bobol a Senedd yr Alban, ac nid system ffaeledig San Steffan, gael penderfynu a ddylid cynnal refferendwm annibyniaeth arall.

“Byddai’n annerbyniol i unrhyw lywodraeth yn San Steffan atal hawl democrataidd yr Alban i ddewis.”