Mae cannoedd o bobol mewn rali yng Ngogledd Iwerddon heddiw yn galw am ail refferendwm Brexit.

Mae Pleidlais y Bobol yn dweud bod y cyhoedd yn haeddu cael y gair olaf ar ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ac ar gytundeb Llywodraeth Prydain.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad mae Dominic Grieve, cyn-weinidog Llywodraeth Prydain, a’r cadeirydd Alistair Campbell.

Mae pryder mawr ar hyn o bryd yng Ngogledd Iwerddon am effaith Brexit ar Gytundeb Gwener y Groglith.