Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi cael ei gyhuddo o ymddwyn fel “gwadwr newid hinsawdd”.

Daw sylwadau Wera Hobhouse, llefarydd hinsawd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn ystod araith yng nghynhadledd y blaid yn Bournemouth.

Mae’n dweud ei fod e’n defnyddio iaith debyg i Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau.

“Nawr, fel Trump, mae Johnson yn siarad am ‘dywydd eithriadol’ – mae e’n symud oddi wrth dderbyn newid hinsawdd,” meddai yn ei haraith.

“Maen nhw [Llywodraeth Prydain] hyd yn oed yn siarad am leihau treth ar danwydd.

“Dyma eiriau a gweithredoedd gwadwyr newid hinsawdd,” meddai, gan ychwanegu fod arweinwyr gwleidyddol poblyddol yn manteisio ar effaith newid hinsawdd at eu dibenion eu hunain.”

Lladd ar record y llywodraeth

Mae hi hefyd yn beirniadu Llywodraeth Geidwadol Prydain am eu record wrth fynd i’r afael â’r hinsawdd, gan eu cyhuddo o “ddinistrio” gwaith y Democratiaid Rhyddfrydol pan oedden nhw mewn clymblaid rhwng 2010 a 2015.

“Beth mae’r Torïaid wedi’i wneud am yr argyfwng hinsawdd dros y pedair blynedd diwethaf?

“Ac eithrio bil gwaddol Theresa May o ymrwymo’r Deyrnas Unedig i net-sero erbyn 2050, mae’r Torïaid wedi dinistrio bron pob cynnydd a wnaethon ni yn ystod blynyddoedd y glymblaid.”

Mae hi’n feirniadol o’r penderfyniad i ddileu Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan, yn ogystal â pholisi ffracio’r llywodraeth.