Mae tri o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o drywanu dyn i farwolaeth yn ne-ddwyrain Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i siop cyw iâr yn Lewisham, lle daethon nhw o hyd i ddyn ag anafiadau difrifol i’w ben, ac roedd e wedi cael ei drywanu yn ystod ffrwgwd neithiwr (nos Wener, Medi 13).

Mae’r heddlu’n trin marwolaeth dyn 34 oed fel achos o lofruddio, ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad.

Mae ail ddyn, sy’n 51 oed, wedi cael mynd o’r ysbyty ar ôl cael triniaeth ond mae’n cael ei amau o lofruddio ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn wreiddiol.

Mae dau ddyn arall, sy’n 40 a 46 oed ac a gafodd eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, hefyd dan amheuaeth o lofruddio erbyn hyn.

Mae’r tri yn cael eu holi yn y ddalfa yn ne Llundain.

Mae teulu’r dyn fu farw wedi cael gwybod ac fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal.

Mae 103 o bobol wedi cael eu llofruddio yn Llundain eleni.