Mae ymgyrchwyr yn croesawu addewid Llafur i ddiddymu Tŷ’r Arglwyddi pe baen nhw’n dod i rym yn San Steffan.

Mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi bod yn ymateb i gyhoeddiad canghellor yr wrthblaid John McDonnell a’r arweinydd yn yr Alban, Richard Leonard.

Yn ôl cynllun y blaid, byddai Tŷ’r Arglwyddi’n cael ei ddisodli gan haen o aelodau etholedig, gyda chynrychiolwyr o bob un o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.

Daw’r cyhoeddiad ddyddiau’n unig ers cyhoeddi 19 o Arglwyddi newydd fel rhan o anrhydeddau’r cyn-Brif Weinidog Theresa May.

Bellach, mae bron i 800 o Arglwyddi.

“Rydym wedi ein cyflwyno â chyfle unwaith mewn bywyd,” meddai John McDonnell.

“Hynny yw, newid cyfeiriad taith wleidyddol y Deyrnas Unedig mewn ffordd na welwyd ers y 1980au.

“Mae ein hamser ar ddod. Ac fe all ddod yn gynt nag yr oedd unrhyw un yn ei ddisgwyl.”

Ymateb y Gymdeithas

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw y byddai Llywodraeth Lafur yn diddymu Tŷ’r Arglwyddi,” meddai Darren Hughes, prif weithredwr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.

“Am yn rhy hir, mae’r Arglwyddi heb eu hethol a heb fod yn atebol wedi bod yn destun embaras i’n gwleidyddiaeth.

“Dyw e’n ddim byd mwy na chlwb aelodau preifat chwyddiedig ar gyfer yr elit.”

Mae’r Gymdeithas yn galw am “Senedd sy’n addas ar gyfer democratiaeth fodern”.