Mae nifer y bobl sy’n marw o ganlyniad i drais yn y cartref wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers pum mlynedd, yn ol ffigurau newydd.

Mae’r ffigurau sydd wedi dod i law y BBC gan 43 o luoedd heddlu ar draws y Deyrnas Unedig, yn dangos bod 173 o bobl wedi marw mewn digwyddiadau yn ymwneud a thrais yn y cartref y llynedd.

Yn ol y ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Medi 13) bu farw 165 o bobl yn 2014, 160 yn 2015, 139 yn 2016, a 141 yn 2017.

Daw’r ffigurau newydd ar ol i’r Prif Weinidog Boris Johnson roi addewid i ail-gyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud a thrais yn y cartref yn Araith y Frenhines.

Cafodd y Bil Trais yn y Cartref ei gyflwyno yn y Senedd ym mis Gorffennaf. Mae’n cynnig  rhoi gwell diogelwch i’r rhai sy’n ffoi rhag trais drwy roi dyletswydd gyfreithiol newydd ar gynhgorau i ddarparu cartrefi diogel iddyn nhw a’u plant.

Fe fyddai hefyd yn cyflwyno diffiniad newydd o gam-drin domestig sy’n cynnwys cam-drin economaidd ac ymddygiad lle mae’r dioddefwr yn cael eu rheoli a’u dylanwadu.