Mae plismyn sy’n ymchwilio i farwolaeth babi gafodd ei achub o afon yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.

Cafodd y babi 11 mis oed, sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Zakari Bennett, ei achub o’r afon Irwell gan y Frigad Dân yn Radcliffe, ger Manceinion.

Cafodd y babi ei gludo i’r ysbyty ond bu farw ychydig yn ddiweddarach.

Cafodd dyn 22 oed ei arestio ddydd Mercher (Medi 11).

Ond mae’r heddlu yn dal i apelio am unrhyw wybodaeth ac yn credu y gallai’r digwyddiad fod wedi’i gofnodi ar gamera gan aelodau o’r cyhoedd.