Mae’r Undeb Ewropeaidd yn dal i aros am syniadau gan Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ynglŷn â sut i ddod i gytundeb tros Brexit.

Dyna mae prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, wedi ei ddweud wrth i’r dyddiad terfyn am ddêl, Hydref 31, nesáu.

Mae cennad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, David Frost, wedi bod yn cynnal trafodaethau ym Mrwsel yr wythnos hon, ond hyd yma does dim wedi dod o hynny.

Bu Llywydd Senedd Ewrop, David Sassoli, yn cynnal trafodaethau â Michel Barnier ar ddydd Iau (Medi 11), ac mae wedi taflu dŵr oer tros unrhyw obeithion.

Opsiynau

“Dyw’r Deyrnas Unedig ddim wedi cynnig unrhyw bosibiliadau gwahanol, neu unrhyw beth sydd yn gyfreithiol gredadwy neu’n ymarferol,” meddai.

“Yn anffodus, dyw’r arwyddion rydym yn synhwyro ddim yn awgrymu bod yna unrhyw opsiwn a all ailagor y trafodaethau.”

Gwraidd yr anghydfod

Mae’r Undeb Ewropeaidd am i Ogledd Iwerddon ddilyn rheolau gwahanol i weddill y Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit, er mwyn hwyluso masnach â Gweriniaeth Iwerddon.

Mae Boris Johnson, ar y llaw arall, yn gwrthwynebu hyn, a dyw e ddim yn awyddus i dalu bargen a fyddai’n arwain at y fath drefniant.