Harriet Harman am sefyll i fod yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin

Diweddarwyd am  

San Steffan

Llun: Commons Wikimedia CC0

Mae’r cyn-weinidog Llafur, Harriet Harman, wedi cadarnhau y bydd yn sefyll i fod yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin wrth iddi ganmol arddull ddadleuol John Bercow yn y swydd.

Gyda Bercow yn rhoi’r gorau i’r rôl ddiwedd y mis nesaf, dywedodd Harriet Harman fod yn rhaid i’w olynydd barhau i sicrhau bod y Senedd yn cael dweud ei dweud.

Dywedodd y cyn ddirprwy arweinydd Llafur na ddylai’r Llefarydd gymryd ochr yn wleidyddol, ond y dylai ganiatáu i’r Senedd ddwyn y Llywodraeth i gyfrif.

“Gwaith y Llefarydd yw sicrhau bod y Senedd, yn ôl ei mwyafrif, yn cael dweud ei dweud, a chredaf mai dyna mae John Bercow wedi ceisio ei wneud,” meddai Harriet Harman wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Nid yw’r Llefarydd yn pleidleisio, nid yw’n cymryd ochr mewn dadleuon,” ychwanegodd. “Ond nid yw’r Llefarydd yn niwtral fel rhwng y Senedd a’r weithrediaeth.

“Rhaid i’r Llefarydd fod ar ochr y Senedd a sefyll dros y Senedd. Ni all y Llefarydd ganiatáu i’r Senedd ddweud ei dweud am yr hyn y mae am ei wneud.”

Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones