Mae John Bercow wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu camu o’r neilltu fel Llefarydd Ty’r Cyffredin ar Hydref 31 oni bai bod etholiad cyffredinol cyn hynny.

Fe fu’n annerch Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma (dydd Llun, Medi 9).

Wrth annerch y tŷ, dywedodd John Bercow, sydd wedi bod yn Llefarydd ers 2009 ac yn Aelod Seneddol tros Buckingham ers 1997:

“Yn ystod etholiad 2017, fe wnes i addo i’m gwraig a’m plant mai hwn fyddai’r un olaf.

“Dw i’n bwriadu cadw at fy ngair. Os yw’r Tŷ’n pleidleisio o blaid etholiad cyffredinol cynnar heno, bydd fy nghyfnod yn Llefarydd ac yn Aelod Seneddol yn dod i ben gyda diwedd y Senedd hon.

“Os na fydd y Tŷ’n pleidleisio o blaid hynny, dw i wedi dod i’r casgliad mai’r dull lleiaf anhrefnus a mwyaf democrataidd o weithredu fydd camu o’r neilltu ar ddiwedd busnes y Tŷ ar ddydd Iau, Hydref 31.”

“Democrataidd”

Ychwanega: “Dyma fydd y dull lleiaf anhrefnus o weithredu oherwydd bod y dyddiad hwnnw yn disgyn yn fuan wedi’r gyfres o bleidleisiau ar Araith y Frenhines y disgwylir iddyn nhw gael eu cynnal ar Hydref 21 a 22.

“Bydd yr wythnos neu ragor wedi hynny yn llawn cynnwrf, a bydd yn ddoeth cael ffigwr profiadol yn y gadair yn ystod y cyfnod byr hwnnw.

“Dyma fydd y dull mwyaf democrataidd o weithredu oherwydd ei bod yn golygu y bydd pleidlais [ar Lefarydd newydd] yn cael ei chynnal pan fydd gan yr holl aelodau peth gwybodaeth am yr ymgeiswyr.

“Mae hyn yn well na chael cystadleuaeth ar ddechrau’r Senedd newydd, pan na fydd gan yr Aelodau Seneddol yr un wybodaeth, a phryd y gallan nhw fod yn agored i ddylanwadu sefydliadol.”