Mae disgwyl i Boris Johnson ddwysau’r pwysau ar Aelodau Seneddol i gefnogi etholiad cyffredinol brys neu wynebu pum wythnos o wylio’r trafodaethau Brexit ar y cyrion.

Fe allai’r Prif Weinidig prorogio’r Senedd mor fuan a heddiw (dydd Llun, Medi 9) a fyddai’n golygu bod holl weithrediadau’r Senedd yn cael eu gohirio tan Hydref 14.

Ond mae disgwyl i Boris Johnson roi cynnig arall i Aelodau Seneddol er mwyn osgoi hyn drwy gynnal pleidlais arall ar gynnal etholiad cyffredinol cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

Fe fydd Downing Street yn gorfod gwneud penderfyniad ynglyn a prorogio’r Senedd erbyn dydd Iau.

Deddf

Mae disgwyl i ddeddfwriaeth, sy’n ceisio osgoi Brexit heb gytundeb, gael Cydsyniad Brenhinol cyn i’r Senedd gael ei prorogio.

Ond mae’n debygol y byddai Aelodau Seneddol yn cael eu gorfodi allan o’r Senedd yn syth wedi hynny a gorfod aros i weld a fyddai Boris Johnson yn cydymffurfio a’r ddeddf. Fe fyddai’r ddeddf, sy’n cael ei galw’n ddeddf Benn ar ol yr Aelod Seneddol Llafur Hilary Benn, yn ymestyn y dyddiad terfynol ar gyfer Brexit tan fis Ionawr 2020.

Yn y cyfamser fe fydd Boris Johnson yn teithio i Iwerddon ddydd Llun i gwrdd a Phrif Weinidog Iwerddon Leo Varadkar.

Ond mae Leo Varadkar eisoes wedi taflu dwr oer ar awgrymiadau eu bod am ddod i gytundeb ynglyn a’r “backstop”, sef yr hyn gafodd ei gytuno gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig er mwyn osgoi ffin galed yng Ngogledd Iwerddon.