Mae’r actores Betty Driver, oedd yn chwarae rhan Betty Turpin yn Coronation Street,
Betty Driver yn Coronation Street
 wedi marw yn 91 oed.

Fe ymunodd â’r opera sebon yn 1969 ar gytundeb tri mis – gan aros wedyn am 42 o flynyddoedd ac ymddangos mewn bron i 3000 o raglenni.

Cyn hynny roedd hi eisoes wedi bod yn gweithio ym myd adloniant am bron i 40 mlynedd gan ei bod wedi cychwyn canu ar y llwyfan yn blentyn 12 oed a chreu gyrfa lwyddianus iddi hi ei hun fel cantores.

Cafodd ei hanrhydeddu efo’r MBE gan y Frenhines yn 1999.

Bu farw’r actores yn dawel mewn ysbyty y bore yma ar ôl bod yno am chwech wythnos. Roedd wedi dweud wrth gynhyrchwyr Coronation Street na fuasai byth bythoedd yn ymddeol.

“Dwi wrth fy modd yn gweithio,” meddai “ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw fy saethu i gael gwared arna’i.”

Dywedodd Barbara Knox, sy’n chwarae rhan Rita Sullivan ei bod wedi colli ffrind da a’r gyfres wedi colli cymeriad mawr.

‘Roedd hi’n broffesiynol o’i chorun i’w sawdl’” meddai “ac fe fydd chwith garw ar ei hôl.”