Bydd Boris Johnson yn “gwneud pob ymdrech” i sicrhau nad yw’r Deyrnas Gyfunol yn gwahanu.

Daw sylwadau’r Prif Weinidog ar drothwy ei daith i fferm yn Swydd Aberdeen heddiw (dydd Gwener, Medi 6), lle mae’n gobeithio sicrhau cefnogaeth ymhlith pleidleiswyr – er bod y gwrthbleidiau yn San Steffan yn dal i wrthod ei alwad am etholiad cyffredinol.

Mewn darn ym mhapur The Daily Telegraph, mae Boris Johnson yn mynnu nad oes gan yr Alban yr un rheswm i ofyn am annibyniaeth wedi Brexit, er bod yna alwadau cynyddol am ail refferendwm ar y mater.

Mae’n mynd yn ei flaen wedyn i addo £51.4m i ffermwyr yr Alban ar gyfer y ddwy flynedd nesaf – swm sy’n ychwanegol i’r £160m a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddydd Mercher, meddai.

Gweinidog yr Undeb?

“Y cyfrifoldeb mwyaf sydd gan y Prif Weinidog yw diogelu a chryfhau ein hundeb a’r cyfan y mae’n ei gynrychioli,” meddai Boris Johnson.

“Mae’r coch, gwyn a glas yn Faner yr Undeb yn cynrychioli popeth yr ydym ni wedi eu cyflawni gyda’n gilydd fel yr undeb gwleidyddol ac economaidd mwyaf llwyddiannus mewn hanes modern…

“Dw i’n ei chael hi’n anodd dygymod â pham y bydd unrhyw un eisiau darnio ein gwlad lwyddiannus, rhwygo croes Sant Andrew o Fflag yr Undeb a gosod ffin ryngwladol ar draws ein hynys.

“Fel Gweinidog yr Undeb, dw i am wneud pob ymdrech i gryfhau a diogelu’r cyfan sy’n cael ei drysori a’i goleddu ganddon ni, gan wrthwynebu’r rheiny sy’n ceisio ein gwahanu.”