Philip Hammond
Mae’r cyn Weinidog Trafnidiaeth Philip Hammond wedi cychwyn ar ei waith y bore yma yn olynu Liam Fox fel Gweinidog Amddiffyn.

Mae Mr Hammond, sy’n aelod seneddol ers 1997, wedi dweud y bydd yn sicrhau y bydd amddiffynfeydd Prydain a’r cyllid y tu cefn iddyn nhw “mor gadarn a’i gilydd.”

Yn y cyfamser mae’r pwysau ar Dr Fox yn parhau wedi iddo ymddiswyddo ddoe ar ôl wythnos o feirniadaeth am oblygiadau posib ei berthynas gyda’i ffrind Adam Werritty. Roedd Mr Werritty wedi mynd gydag ef ar 18 ymweliad swyddogol dramor er nad oedd ganddo reswm swyddogol dros wneud hynny a hefyd wedi ymweld â Dr Fox 22 o weithiau yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Disgwylir y bydd adroddiad ar ymddygiad Dr Fox gan Ysgrifennydd y Cabinet Gus O’Donnell yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf ac yn ôl y BBC mae’r adroddiad yn debygol o fod yn “hynod feirniadol”.

Dywedodd Llefarydd Llafur ar Amddiffyn, Jim Murphy bod yna sawl cwestiwn eto sydd heb ei hateb.

“Mae’n ymddangos bod Adam Werritty wedi trin Liam Fox fel modd o wneud arian felly mae’n rhaid i ni gael gwybod, fel rhan o’r ymchwiliad, yn union ble mae’r arian yma. Rhaid parhau efo’r ymchwiliad gan ei ymestyn os oes angen,” meddai.

Mae Jon Molton sy’n gyfalafwr menter adnabyddus, wedi dweud bod Dr Fox wedi gofyn iddo’n bersonol i gyfrannu i gronfa cwmni o’r enw Pargav sefydlwyd i ddadansoddi ac ymchwilio i bolisi diogelwch. Mr Werritty oedd yn gweinyddu’r cwmni ac yn ôl adroddiad yn y Times ddoe, defnyddiwyd arian Pargav i dalu am deithiau Mr Werritty yn dilyn Liam Fox o amgylch y byd.