Mae grwp bancio Lloyds wedi llwyddo i gael y gorau ar res o wrthwynebwyr i brynu busnes morgeisi Tesco Bank am tua £3.8bn.

Mae’r cytundeb hwn yn golygu y bydd rhagor na 23,000 o gwsmeriaid morgais yn newid drosodd at Halifax, un o gwmnïau eraill grwp Lloyds, gan wneud banc y ceffyl du yn fenthycwr mwya’ gwledydd Prydain.

Mae disgwyl i’r broses drosglwyddo gwerth £3.7bn o gyfrifon ddigwydd cyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae Tesco Bank wedi cyhoeddi ers mis Mai eleni ei fod yn rhoi’r gorau i werthu morgeisi newydd, oherwydd bod amodau’r farchnad yn “heriol”.