Liam Fox
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox wedi ymddiswyddo yn dilyn honniadau am ei berthynas waith gyda’i ffrind Adam Werrity.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog David Cameron, dywedodd ei fod ‘gwneud camgymeriad’ wrth ddylu’r ffiniau rhwng ei ddyletswyddau proffesiynol a phersonol.

Roedd llawer wedi beirniadu Liam Fox am ganiatáu i’w ffrind Adam Werritty fynd gydag ef ar 18 ymweliad swyddogol dramor er nad oedd ganddo reswm swyddogol dros wneud hynny.

“Mae oblygiadau hyn i gyd wedi dod yn gliriach i mi yn ystod y dyddiau diwethaf ” meddai, gan ychwanegu fod yn wir ddrwg ganddo am hyn sydd wedi digwydd.

“Rwyf wedi dweud bod yn rhaid i les y genedl ddod o flaen lles personol droeon. Mae’n rhaid i mi fod yn driw i’m safonau personol rŵan,” meddai. “Rwyf felly, gyda chryn dristwch, wedi penderfynu ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Amddiffyn.”

Dywedodd y Prif Weinidog bod Mr Fox wedi gwneud “gwaith gwych” yn y Weinyddiaeth Amddiffyn ac er ei fod yn derbyn ei resymau dros ymddiswyddo, roedd yn ddrwg ganddo’i weld yn mynd.

Dywedodd y Gweinidog Cyflogaeth Chris Grayling sy’n gefnogwr agos i Dr Fox, gan arwain yr ymgyrch i’w ethol yn arweinydd y Ceidwadwyr yn 2005, ei fod wedi “gwneud penderfyniad dewr ac o bosib y penderfyniad cywir. Mae wedi gwneud gwaith arbennig yn y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn cyfnod tu hwnt o anodd.”

Dywedodd Llefarydd yr Wrthblaid dros Amddiffyn, Jim Murphy bod ymddiswyddiad Dr Fox yn anochel gan ei fod wedi torri’r rheolau.