Cafodd dau ddyn eu lladd wrth i’w car fod mewn gwrthdrawiad ag ambiwlans gerllaw Ross-on-Wye yn Sir Henffordd yn gynnar fore ddoe.

Doedd yr ambiwlans ddim yn ymateb i alwad 999 cyn y gwrthdrawiad, a chafodd dau o’i staff eu hanafu, ond ni chredir bod yr anafiadau’n rhai difrifol.

Dywedodd y Sarjant Dan Poucher o Heddlu Gorllewin Mercia fod ymchwiliad ar y gweill ac apeliodd am wybodaeth gan dystion a rhywun a all fod â lluniau dashcam.

Roedd y ddau ddyn wedi marw yn y fan a’r lle, yn Peterstow ar briffordd yr A49.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr fod pedair ambiwlans, tri parafeddyg a meddyg wedi ymateb i’r gwrthdrawiad.

“Bydd yr ymddiriedolaeth yn cydweithio’n agos â’r heddlu gyda’r ymchwiliad,” meddai.