“Cael a chael fydd hi” i sicrhau cytundeb cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Boris Johnson, prif weinidog Prydain.

Ond mae’n dweud mai bai’r Undeb Ewropeaidd fyddai hi pe na bai’n bosib cytuno ar delerau’r ymadawiad cyn neu ar Hydref 31.

Mae e wedi teithio i Biarritz ar gyfer uwch-gynhadledd y G7, lle mae Brexit yn uchel ar yr agenda.

Mae’n cynnal trafodaethau â llywydd Cyngor Ewrop Donald Tusk, Canghellor yr Almaen Angela Merkel ac Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron.

Yn dilyn y cyfarfodydd, mae’n dweud bod y tebygolrwydd o sicrhau cytundeb yn “gwella”, ond mae’n gwrthod ailadrodd ei neges o’r gorffennol fod ymadawiad heb gytundeb yn annhebygol iawn.

“Mae’r cyfan yn dibynnu ar ein ffrindiau a’n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai wrth y BBC.

“Dw i’n credu, dros y dyddiau diwethaf, fod yna sylweddoliad ym Mrwsel a phrifddinasoedd eraill Ewrop beth yw natur y broblem i’r Deyrnas Unedig.

“Cael a chael fydd hi, dw i’n meddwl, ond y peth pwysig yw paratoi ar gyfer ymadawiad heb gytundeb.”

Pe bai hynny’n digwydd, mae’n dweud ei fod yn barod i gadw cryn dipyn o’r £39bn, y setliad ar gyfer Brexit.

Mae e hefyd yn dweud na fydd prinder bwyd a nwyddau’n broblem.