Mae Boris Johnson “yn mynd i fod yn brif weinidog gwych”, meddai Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar ôl i’r ddau arweinydd gwrdd am y tro cyntaf ers i’r Ceidwadwr olynu Theresa May.

“Ydych chi’n gwybod pwy yw hwn, ydy pawb yn gwybod?” oedd cwestiwn Donald Trump yn ystod cynhadledd y wasg yn Biarritz, lle mae’r ddau yn cymryd rhan yn nharafodaethau’r G7.

“Mae e’n mynd i fod yn brif weinidog gwych, galla i ddweud wrthoch chi.”

Ac mae Donald Trump eisoes yn dweud bod yna wahaniaeth yn ei berthynas â’r prif weinidog newydd o’i chymharu â’r berthynas rhyngddo fe a Theresa May.

Mae’n dweud mai Boris Johnson yw’r “dyn cywir ar gyfer y gwaith” o sicrhau Brexit.

“Dw i wedi bod yn dweud hynny ers amser hir. Doedd hynny ddim wedi gwneud eich rhagflaenydd yn hapus iawn,” meddai wrth annerch Boris Johnson yn uniongyrchol.

Ond perthynas ansefydlog?

Er iddo ganmol Boris Johnson, dydy Donald Trump ddim yn cydweld â fe ar nifer o faterion sy’n cael sylw yn ystod trafodaethau’r G7.

Mae Boris Johnson yn awyddus i dynnu sylw at nifer o broblemau sy’n wynebu’r ddau wrth iddyn nhw geisio sicrhau cytundeb masnach sy’n bodloni’r ddwy wlad.

Mae’n dweud bod angen gwella mynediad i’r farchnad i longau a ffermwyr yn yr Unol Daleithiau.

Ac wrth gyfeirio at yr anghydfod rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina, dywedodd Boris Johnson fod Prydain “o blaid heddwch masnach ar y cyfan”.