Mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno sganiwr newydd mewn meysydd awyr a fyddai’n gweddnewid yr hyn y byddai teithwyr yn gallu mynd gyda nhw ar awyrennau.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn gobeithio cyflwyno sganiwr newydd i bob maes awyr yng ngwledydd Prydain a fyddai’n defnyddio technoleg 3D i weld y tu mewn i fagiau sy’n mynd ar awyrennau.

Fe fyddai’n darparu gwell delweddau fel y gallai teithwyr fynd â hylifau a chyfarpar trydanol gyda nhw ar deithiau awyr, a dileu’r uchafswm o 100ml sy’n cael mynd ar awyrennau ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i’r dechnoleg fod ar gael ym mhob maes awyr yng ngwledydd Prydain erbyn 2022.

Mae arbrawf ar y gweill ym maes awyr Heathrow cyn i’r dechnoleg gael ei chyflwyno i feysydd awyr eraill.