Mae dyn yn ei 30au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn ei 60au, ar ôl iddo fe gael ei drywanu i farwolaeth yng ngogledd-orllewin Llundain.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth i’r dyn oedrannus adael tafarn yn Southall neithiwr (nos Sadwrn, Awst 24).

Dywedodd dyn sy’n byw yn yr ardal ei fod e ar fin mynd i’w barti pen-blwydd ei hun pan gnociodd y dioddefwr ar ei ddrws ar ôl cael ei anafu.

Cafodd yr heddlu eu galw am 6.41yh, ac fe gafodd y dyn driniaeth ond fe fu farw yn y fan a’r lle.

Mae’r dyn sydd wedi cael ei arestio’n cael triniaeth yn yr ysbyty am fân anafiadau.

Mae lle i gredu i’r dioddefwr gael ei drywanu ddwywaith yn ei stumog a’i ochr.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.