Mae Boris Johnson yn rhybuddio mai “camgymeriad difrifol” yw meddwl bod Prydain ar fin colli ei lle ar y llwyfan byd-eang yn sgil Brexit.

Daw ei rybudd wrth iddo baratoi ar gyfer ei uwch-gynhadledd gyntaf o’r G7 ers iddo olynu Theresa May, lle mae disgwyl i Brexit a thanau mawr yr Amazon fod ar frig yr agenda.

Ar gyrion yr uwch-gynhadledd yn Biarritz, fe fydd e’n cyfarfod â Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, am y tro cyntaf ers iddo ddod yn btif weinidog hefyd.

Fe fyd e’n amlinellu ei gynlluniau ar gyfer Brexit yn ystod trafodaethau â Donald Tusk, arweinydd Cyngor Ewrop, gan adeiladu ar gyfarfodydd dros y dyddiau diwethaf ag Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, ac Angela Merkel, Canghellor yr Almaen.

“Mae rhai pobol yn cwestiynu’r penderfyniad democrataidd wnaeth y wlad hon, gan ofni y byddwn ni’n cilio o’r byd,” meddai wrth daro’n ôl yn dilyn sylwadau Emmanuel Macron am fod yn “bartner iau” mewn trafodaethau masnach.

“Mae rhai yn credu bod dyddiau gorau Prydain y tu ôl i ni.

“I’r bobol hynny, rwy’n dweud, ‘Rydych yn gwneud camgymeriad difrifol’.”

Perthynas Boris Johnson a Donald Trump

Mae disgwyl i Boris Johnson a Donald Trump gyfarfod bore fory (dydd Sul, Awst 25).

Fe fu’r ddau yn siarad dros y ffôn ddoe, eu pedwaredd sgwrs o’r fath ers i Boris Johnson ddod yn brif weinidog fis diwethaf.

Mae Prydain yn galw am warchod y Gwasanaeth Iechyd a safonau lles fel rhan o unrhyw gytundeb, ond maen nhw hefyd yn corddi’r Unol Daleithiau drwy ofyn am agor marchnadoedd amaethyddol, gwasanaethau a chaffael cyhoeddus i fyny.

Mae Prydain wedi ymroi i gytundeb niwclear Iran a chytundeb newid hinsawdd Paris, ond mae Donald Trump wedi tynnu’r Unol Daleithiau allan o’r ddau gytundeb eisoes.

Mae gan Brydain bryderon hefyd am yr anghydfod masnach rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina.

Sicrhau Brexit erbyn Hydref 31

Yn ystod ei gyfarfod â Donald Tusk, fe fydd Boris Johnson yn pwysleisio’i awydd i sicrhau ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd erbyn Hydref 31.

Fe ddywedodd ar ôl ei gyfarfod ag Angela Merkel ganol yr wythnos fod y trafodaethau’n bositif ond na fyddai sicrhau newidiadau i’r Bil Ymadael yn hawdd.