Mae bachgen, 10, wedi marw ar ôl cael ei ganfod yn anymwybodol mewn eiddo yn Birmingham.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Blossomville Way yn ardal Acocks Green toc cyn 7.20yb heddiw (dydd Iau, Awst 22) lle y daethon nhw o hyd i’r bachgen mewn cyflwr difrifol.

Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans y West Midlands, fe gludwyd y bachgen o’r safle i Ysbyty Heartlands, a bu farw yn ddiweddarach.

Mae Heddlu’r West Midlands yn dweud eu bod nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus.

Mae disgwyl i brawf post-mortem gael ei gynnal cyn hir, medden nhw wedyn.