Mae 85% o bobol gwledydd Prydain yn pryderu am newid yn yr hinsawdd, ac mae 52% yn cyfaddef eu bod yn pryderu’n fawr amdano, mae ymchwil newydd yn dangos.

Yn ôl yr ymchwil gan Ipsos MORI dyma’r lefel uchaf ers iddynt ddechrau holi amdano yn 2005, gyda phryder am y blaned yn cyrraedd ei uchaf erioed.

Mae’r ymchwil yn dangos hefyd bod 73% o bobol yn teimlo bod effaith newid hinsawdd yn barod yn cael ei deimlo yng ngwledydd Prydain, sy’n cymharu â 41% yn 2010.

Aeth Ipsos MORI ati i holi ar ôl i dymheredd gynyddu’n sylweddol i uchelion newydd yn yr wythnosau diweddar cyn i law trwm a llifogydd gyrraedd.

Cafodd 1,000 o oedolion eu holi yng ngwledydd Prydain yn ystod wythnos olaf Gorffennaf.

Dywed un o bob pedwar bod y tywydd poeth diweddar wedi’i achosi oherwydd newid yn yr hinsawdd a hynny oherwydd ymddygiad pobol gan gynnwys llosgi tanwydd ffosil. Dywed dros hanner y rheiny gafodd eu holi (57%) ei fod yn gymysgedd o weithredoedd pobol a phatrymau tywydd naturiol.

Dim ond 15% oedd yn dweud mai natur oedd yn gyfrifol am y tywydd ansefydlog.