Mae Carl Beech, sydd wedi’i garcharu am 18 mlynedd am wneud honiadau ffug am gylch pedoffiliaid, wedi gwneud cais am ganiatâd i apelio yn erbyn ei ddedfryd.

Cafodd y dyn 51 oed ei ddedfrydu y mis diwethaf yn Llys y Goron Newcastle ar 12 achos o wyrdroi cwrs cyfiander ac un achos o dwyll.

Mae Carl Beech nawr wedi gofyn i’r Llys Apêl i gael yr hawl i apelio yn erbyn y cyhuddiadau a’r ddedfryd a bydd yn rhaid iddo ddisgwyl tua phum mis cyn i’w apêl gael ei asesu gan farnwr.

Mewn cyfres o gyfweliadau dagreuol gyda Heddlu’r Metropolitan, fe adroddodd Carl Beech straeon ffug ynglŷn â chamdriniaeth sadistiadd gan ffigurau amlwg ym myd gwleidyddiaeth, y fyddin a’r gwasanaethau diogelwch.

Ymysg y rhain roedd cyn-filwr D-Day yr Arglwydd Bramall; y cyn Aelod Seneddol Torïaidd Harvey Proctor; a’r Arglwyddes Diana Brittan, gweddw’r cyn-Ysgrifennydd Cartref, Leon Brittan.

Cafodd ymchwiliad heddlu gwerth £2m o’r enw Operation Midland ei lansio yn 2014, ond fe ddaeth hi i ben yn 2016 heb unrhyw arestiadau.