Mae’r dadleuon ynghylch Brexit yn “bitw” o gymharu â’r “problemau difrifol” yn Ne America ac Affrica, meddai David Attenborough.

Ond mae’r naturiaethwr a’r darlledwr yn cydnabod bod llawer o bobol wedi cael “llond bol” o’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn cyfweliad â’r papur Eidalaidd, La Repubblica, dywed y naturiaethwr a’r darlledwr nad yw’r Undeb wedi talu digon o sylw i’r hyn mae pobol yn pryderu yn ei gylch, yn ogystal â mynd “o dan eu croen”.

“Mae’r ffordd mae’r gymuned Ewropeaidd wedi ymyrryd â bywydau pobol ar lefelau dwl neu ar faterion dwl wedi mynd o dan groen llawer o bobol sydd ddim yn deall beth yn union yw’r manteision a’r anfanteision,” meddai’r gŵr, 93.

“Maen nhw wedi cael llong bol o rywun draw yn fan’na sydd ddim yn siarad eu hiaith yn dweud wrthyn nhw faint o bris maen nhw’n gorfod rhoi ar eu tomatos neu ar bethau dwl tebyg.”

Gadael neu aros?

Wrth ei holi pa un ai aros neu adael y mae’n ei ffafrio, ymatebodd drwy ddweud bod “angen newid, un ffordd neu’r llall”. Ond gwrthododd ddatgelu ym mha focs y gosododd ei bleidlais yn y refferendwm yn 2016.

Ychwanega fod pobol wedi cael eu “cythruddo” ar y mater, ond mae’n gobeithio y byddan nhw’n cofio’r “gwallgofrwydd a feddiannodd Ewrop” yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae hefyd wedi beirniadu gwleidyddion y dydd, gan ddweud bod y system wleidyddol ar hyn o bryd mewn “llanast llwyr”.