Mae dyn wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn arall, 30 oed, wedi i hwnnw farw o ganlyniad i gael ei drywanu.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i adeilad yn Blyth, Northumberland, toc cyn 2yb ddydd Llun yr wythnos hon (Awst 19) yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.

Yn ól Heddlu Northumbria, fe ddaethon nhw o hyd i Scott Patterson wedi’i anafu, cyn iddo gael ei gyhoeddi’n farw yn y fan a’r lle gan barafeddygon.

Heddiw (dydd Mercher, Awst 21) mae’r heddlu wedi cyhuddo Peter Dodds, 34, o Uxbridge, gorllewin Llundain, o lofruddio.

Fe gafodd un ddynes, 48, a dau ddyn, 50 a 56 oed, eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae disgwyl i Peter Dodds ymddangos gerbron Llys Ynadon Gogledd Tyneside heddiw.