Mae disgwyl i Boris Johnson gyfarfod â Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, heddiw (dydd Mercher, Awst 21), gan gychwyn ar gyfres o gyfarfodydd gydag arweinwyr y byd yr wythnos hon.

Bydd y Prif Weinidog yn teithio i Berlin lle mae disgwyl iddo drafod materion sy’n ymwneud â Brexit, cyn y daith i Paris ddydd Iau er mwyn cyfarfod ag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron.

Dros y penwythnos wedyn, bydd Boris Johnson yn bresennol yn yr uwchgynhadledd G7, lle bydd cyfle iddo gwrdd ag arweinwyr rhyngwladol eraill, gan gynnwys Donald Trump.

Gwrthwynebu’r ‘backstop’

Ar drothwy’r cyfarfodydd, mae Boris Johnson wedi dweud droeon na fyddai’n cefnogi unrhyw gytundeb Brexit sy’n cynnwys ‘backstop’

Mewn cyfweliad ag ITV News, dywedodd fod yna “ddigon o syniadau creadigol eraill” ar gael yn lle’r trefniant sy’n rhan o gytundeb Theresa May.

“Ni fydd Llywodraeth Prydain yn gosod gwiriadau wrth y ffin yng Ngogledd Iwerddon, dim ots beth fydd yr amgylchiadau.

“Mae’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn honni bod angen gwiriadau o’r fath ar gyfer y farchnad sengl – dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n wir.

“Dw i’n mynd i geisio trafod y syniadau hynny gyda’n ffrindiau yn yr Almaen a Ffrainc ac yn y G7.”

Dim cyfarfodydd o Fedi ymlaen

Yn y cyfamser, mae’r Ysgrifennydd Brexit, Stephen Barclay, wedi cyhoeddi na fydd gweinidogion na swyddogion y llywodraeth yn mynychu cyfarfodydd yr Undeb Ewropeaidd o Fedi 1 ymlaen.

Bydd gwledydd Prydain ond yn cael eu cynrychioli mewn cyfarfodydd sydd “o ddiddordeb cenedlaethol sylweddol”, meddai.