Mae Ysgrifennydd Amddiffyn gwledydd Prydain wedi dweud wrth un o gwmnïau amddiffyn y Llywodraeth y bydd yn ymchwilio i’r broses o’i werthu i gwmni o’r Unol Daleithiau am £4bn.

Fe alwodd teulu cwmni Cobham ar y Llywodraeth i ymyrryd yn y cytundeb yn gynharach y mis hwn, gan ddadlau nad yw hi o fudd i’r cyhoedd fod yr hen gwmni’n cael ei gymryd drosodd.

Mae’r Arglwyddes Nadine Cobham wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace, a’r Ysgrifennydd Busnes, Andrea Leadsom, yn dilyn gwrthwynebiad cynyddol i’r cytundeb gyda chwmni preifat Advent International o’r Unol Daleithiau.

Mae Ben Wallace wedi dweud y byddai’n “edrych ar” eu pryderon o gwmpas y cytundeb ac yn ystyried yr effaith ar “y diogelwch a’r sgiliau” sydd ei angen i amddiffyn gwledydd Prydain.

Cefndir y cwmni

Sefydlwyd Cobham, sy’n gontractwr mawr i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau, gan Syr Alan Cobham ym 1934 ac mae’n cyflogi tua 10,000 o bobl, gan gynnwys 1,700 yng ngwledydd Prydain.