Mae cynnig Boris Johnson i wneud newidiadau mawr mewn cytundeb Brexit newydd, fyddai’n gweld ffîn galed gydag Iwerddon yn cael ei sgrapio, wedi cael ei wrthod gan Frwsel.

Roedd y Prif Weinidog wedi rhoi cynnig i’r cytundeb wrthgefn – sef y cynllun i osgoi ffîn galed gydag Iwerddon – gael ei sgrapio o gytundeb Brexit newydd o flaen Hydref 31, dyddiad ymadael gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae arlywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, wedi amddiffyn y mesur gan rybuddio y byddai’r rhai sydd yn edrych i’w ddisodli mewn perygl ddychwelyd y ffîn ar ynys Iwerddon i un caled.

“Mae’r cytundeb wrthgefn yn yswiriant i osgoi ffîn galed ar ynys Iwerddon hyd nes ac oni bai mae dewis arall yn cael ei ddarganfod,” meddai Donald Tusk.

“Mae’r rhai sydd yn erbyn y cytundeb wrth gefn ac sydd ddim yn cynnig dewisiadau amgen mewn gwirionedd yn cefnogi ailsefydlu ffin mewn gwirionedd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cyfaddef hynny.”

Roedd Boris Johnson wedi ysgrifennu at Donald Tusk nos Lun (Awst 19) yn amlinellu ei wrthwynebiad i’r hyn a alwodd yn gytundeb wrth gefn “gwrth-ddemocrataidd” gyda Gogledd Iwerddon.

Yn y llythyr, dywedodd y Prif Weinidog er ei fod am i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd gyda bargen, ni allai gefnogi unrhyw gytundeb ymadael sy’n “cloi gwledydd Prydain, o bosib am gyfnod amhenodol, mewn cytundeb rhyngwladol a fydd yn ein clymu i undeb tollau.”