Mae’r Swyddfa Dramor yn dweud bod ganddyn nhw bryderon yn dilyn adroddiadau bod aelod o’u staff o dan glo yn Tsieina.

Mae Simon Cheng Man-kit, sy’n gweithio i Swyddfa Prif Gonswl Prydain yn Hong Kong, wedi bod ar goll ers croesi’r ffin rhwng y rhanbarth a’r tir mawr ar gyfer taith fusnes ar ddechrau’r mis, yn ôl y wasg yn lleol.

Mae’r Hong Kong Free Press yn dweud bod y swyddog wedi mynd i ddigwyddiad busnes yn Shenzhen yn ne-ddwyrain Tsieina ar Awst 8, ond methodd â dychwelyd.

Dywed y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n cydweithio â’r awdurdodau yn Hong Kong a rhanbarth Guangdong er mwyn ceisio dod o hyd i fwy o wybodaeth am Simon Cheng Man-kit.