Mae disgwyl i ddyn, 20, fynd o flaen ei well heddiw (dydd Mawrth, Awst 20) wedi ei gyhuddo o lofruddio heddwas mewn digwyddiad yn Berkshire yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw PC Andrew Harper o anafiadau lluosog ar ôl cael ei lusgo o dan gerbyd ym mhentref Sulhamstead nos Iau (Awst 15). Roedd y swyddog, 28, yn ymchwilio i achos o ladrata ar y pryd.

Cafodd Jed Foster, 20, ei gyhuddo o’i lofruddio neithiwr ar ôl i ymchwilwyr yr heddlu holi deg person mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae’r dyn wedi cael ei gyhuddo o ddwyn beic cwad hefyd, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Reading yn ystod y dydd heddiw.

Cafodd pob un o’r deg person a gafodd eu holi eu harestio o fewn awr i’r digwyddiad, gyda’r ieuengaf yn 13 oed a’r hynaf yn 30 oed.

Mae’r naw sy’n weddill wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tan Fedi 13.

Yn ddiweddarach neithiwr, fe gyhoeddodd gweddw Andrew Harper, Lissie, deyrnged i’w diweddar ŵr, gan ddweud mai fe oedd y person “mwyaf caredig, hyfryd ac anhunanol”.

“Does yna ddim digon o bapur yn y byd i ddechrau sgrifennu teyrnged i ti, ond does neb yn haeddu un yn fwy na thi,” meddai.