Mae dau ddyn arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio llanc 16 oed yn ardal Camden yn Llundain.

Cafodd Alex Smith ei drywanu droeon ddydd Llun diwethaf (Awst 12) ar ôl cael ei gwrso gan nifer o bobol.

Cafodd dyn 19 oed ei arestio yn Camden ac un arall yn Wembley ar amheuaeth o lofruddio.

Cafodd dynion 18, 20 a 23 oed eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu harestio yr wythnos ddiwethaf.

Mae lle i gredu eu bod nhw’n chwerthin wrth gwrso Alex Smith â machete cyn ymosod arno wrth iddo floeddio am gymorth.