Mae mwy o ddisgyblion wedi cael lle mewn prifysgolion drwy’r system glirio nag erioed o’r blaen, yn ôl ystadegau.

Yn ôl UCAS, mae 17,420 o fyfyrwyr wedi cael eu derbyn trwy’r broses sy’n golygu bod cynnydd o 15% wedi bod ers llynedd.

Allan o rain roedd 4,540 wedi ymgeisio’n uniongyrchol i fynd drwy’r system, sy’n gynnydd o 8% ar 2018.

Daw’r ffigurau i’r amlwg ddiwrnod yn unig wedi i ddisgyblion ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon dderbyn eu canlyniadau lefel A.

Mae clirio wedi dod yn llwybr cynyddol boblogaidd i sicrhau lle mewn prifysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd diwygiadau sydd wedi codi’r cap ar nifer y myfyrwyr y gallai prifysgolion eu recriwtio.

Mae hi’n cael ei ddefnyddio hefyd gan fyfyrwyr a allai fod wedi newid eu meddwl am eu cwrs neu brifysgol ac eisiau dod o hyd i rywle newydd, neu’r rhai sydd wedi gwneud yn well na’r disgwyl yn eu harholiadau ac eisiau masnachu lleoedd.