Mae’r Swyddfa Gartref yn Westminster wedi cael ei chloi ar ôl i ddyn cael ei drywanu yno.

Mae’r swyddfa wedi cael ei amgylchynu gyda nifer o geir heddlu wedi parcio o’i gwmpas.

Cafodd yr heddlu eu galw yno am 1.06 o’r gloch bnawn heddiw (dydd Iau, Awst 15) i Marsham Street yn dilyn adroddiadau bod dyn gyda chyllell yno, meddai Heddlu’r Met.

Mae un dyn wedi cael ei drywanu ac mewn cyflwr difrifol, tra mae dyn arall wedi cael ei arestio o dan amheuaeth o wneud niwed difrifol.