Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal ar gorff Nora Quoirin, merch 15 oed, ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod ym Malaysia.

Cafwyd hyd i gorff noeth y ferch o Lundain mewn ceunant ryw 1.6 milltir i ffwrdd o Dusun ddoe (dydd Mawrth, Awst 13).

Aeth hi ar goll ar ddydd Sul, Awst 4 tra ei bod hi ar wyliau gyda’i theulu.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r posibilrwydd iddi gael ei lladd gan rywun arall, a chyn iddi gael ei darganfod, roedd ei theulu’n cynnig £10,000 am wybodaeth amdani.

Ac fe gasglodd tudalen elusennol dros £100,000.

Roedd hi’n dioddef o gyflwr ar ei hymennydd, oedd yn golygu na allai hi fyw’n annibynnol ac roedd hi’n cael gwaith cerdded.

Mae lle i gredu ei bod hi wedi dringo allan drwy ffenest ei gwesty cyn mynd ar goll.

Mae ei theulu wedi talu teyrnged iddi gan ddweud ei bod hi’n berson “arbennig iawn”.