Mae barnwr wedi penderfynu heddiw (dydd Mawrth, Awst 23) y bydd her gyfreithiol gyda’r bwriad o atal Boris Johnson rhag gorfodi Brexit heb fargen drwy ohirio’r Senedd yn cael ei chyflymu.

Mae’n golygu y gall cynlluniau Brexit y Prif Weinidog gael eu heffeithio yn fuan fis nesaf wrth i’r ddeiseb sy’n galw ar y llys i gwestiynu ei weithredoedd fynd o flaen y llys.

Mae’r her, sydd wedi cael ei chefnogi gan dros 70 o Aelodau Seneddol, yn galw ar y Cwrt Sesiynau yng Nghaeredin i ddatgan fod gohirio’r Senedd i wneud hyn yn “anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.”

Fe fydd yr amserlen ar gyfer yr her yn cael ei gyflymu felly, ac yn dechrau ar ddydd Gwener, Medi 6, mae’r Barnwr Arglwydd Raymond Doherty wedi penderfynu.

Ar Fedi 3 fe fydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd ar ôl eu toriad haf, ac fe all Llafur alw am bleidlais hyder unrhyw ddiwrnod yr wythnos honno.

Y diwrnod canlynol, bydd y Llywodraeth hefyd yn darparu adroddiad ar rannu pŵer yng Ngogledd Iwerddon, a fydd yn cael ei drafod o fewn pum diwrnod.

Mae’r Prif Weinidog wedi addo tynnu gwledydd Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd gyda neu heb fargen erbyn Hydref 31 – sef diwrnod olaf Erthygl 50 estynedig – gan honni y bydd yn “adfer ymddiriedaeth yn ein democratiaeth.”