Mae nifer cynyddol o blant a phobol ifanc yn galw am gymorth oherwydd straen a gorbryder dros canlyniadau arholiadau, yn ôl Childline.

Mae’r wasanaeth, sy’n cael ei redeg gan elusen yr NSPCC yn dweud ei fod yn rhoi dros 1,414 o sesiynau cwnsela i blant a phobol ifanc am straen arholiadau yn 2018/19 – cynnydd o 51% ar bedair blynedd yn ôl pan oedd nifer y sesiynau yn 937.

Roedd un o bob pump o’r rhain yn ystod mis Awst y llynedd – sef y mis pan y mae plant a phobol ifanc ledled gwledydd Prydain yn cael eu canlyniadau TGAU a Lefel A.

Mae pobol ifanc yn gofyn am gymorth am amrywiaeth o resymau sy’n gysylltiedig ag arholiadau, gan gynnwys pryder na fydden nhw’n cael eu graddau i sicrhau lle yn y brifysgol ar ben pryder y bydden nhw’n gadael eu rhieni ac athrawon i lawr.

I eraill y llwyth gwaith sy’n cael effaith arnynt, gyda rhai yn ei chael hi’n anodd i gysgu, meddai Childline.

“Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn teimlo’n nerfus adeg arholiadau, ond mae’r posibilrwydd o fethiant wedi cymryd mwy o bwys nag erioed o’r blaen, ac mae’n peri pryder mawr i’n plant,” meddai Esther Rantzen, sylfaenydd a llywydd Childline.

“Mae pobol ifanc yn troi at Childline pan maen nhw mor bryderus nes eu bod yn cael eu goresgyn â phanig neu’n colli cwsg gwerthfawr. Ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y nifer cynyddol o sesiynau cwnsela Childline.”