Mae Stryd Downing yn “bryderus” ynglŷn â’r sefyllfa yn Hong Kong ac yn galw am ddatrysiad heddychlon i’r gwrthdaro yno.

Mae protestwyr wedi bod yn tyrru i’r strydoedd yn gyson ers deufis, gan alw am ddiwygiadau democrataidd ac ymchwiliad annibynnol i ymddygiad yr heddlu.

Yn fwy diweddar, mae gweithredu ar y ddwy ochr – yr awdurdodau a’r protestwyr – wedi troi’n fwy eithafol, gan godi pryderon ar y llwyfan rhyngwladol.

Bu’n rhaid i faes awyr Hong Kong ohirio ei holl wasanaethau heddiw (dydd Llun, Awst 12) ar ôl i filoedd o brotestwyr dyrru i mewn i’r prif adeilad.

Galw am “gyfathrebu”

Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi galw am “gyfathrebu” rhwng yr awdurdodau a’r protestwyr, gan alw am heddwch yn y diriogaeth a fu, tan 1997, o dan reolaeth Llywodraeth Prydain.

“Mae gennym bryder ynglŷn a’r trais yn Hong Kong ac rydym yn annog tawelu gan y ddwy ochr,” meddai. “Rydym am weld unrhyw brotestio yn cael eu cynnal mewn modd cyfreithlon a heddychlon.

“Rydym yn dweud yn glir bod angen i reolau rhyngwladol gael eu parchu, a bod yr hawliau sylfaenol sy’n rhan o’r cytundeb rhwng llywodraethau Prydain a Tsieina yn cael eu cadw.”

Hong Kong a Tsieina

Cafodd Hong Kong ei dychwelyd i feddiant Tsieina yn 1997 o dan yr egwyddor, “un wlad, dwy system”.

Mae’r egwyddor hwnnw yn addo rhai hawliau democrataidd i drigolion y diriogaeth – yn wahanol i bobol ar y tir mawr.

Ond yn y blynyddoedd diwethaf, mae rhai wedi cyhuddo’r llywodraeth yn Beijing o dorri yn ôl yn araf bach ar rai o’r hawliau hynny.