Boris Johson: ‘Dylai troseddwyr peryglus dreulio mwy dan glo’

Diweddarwyd  
Carchar

Carchar

Llun: Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi cyhoeddi £85m ychwanegol ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae Boris Johnson hefyd wedi dweud y dylai troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar dreulio mwy o amser dan glo ar ôl iddo orchymyn adolygiad brys o’r polisi dedfrydu.

Dywedodd y Prif Weinidog y dylai troseddwyr peryglus gael eu tynnu oddi ar y strydoedd ac y dylen nhw wynebu dedfrydau llymach.

Daw’r camau diweddaraf yn dilyn cyfres o gyhoeddiadau dros y penwythnos pan ddywedodd Boris Johnson ei fod am fynd i’r afael a chyfraith a threfn.

Mae’r cyhoeddiadau’n cynnwys rhaglen £2.5bn i greu 10,000 o lefydd ychwanegol mewn carchardai ac ymestyn pwerau stopio ac archwilio’r heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Mae ‘na ddarogan bod Boris Johnson yn paratoi ar gyfer etholiad cyffredinol cynnar wrth i’r rhwygiadau yn y Senedd dros Brexit barhau.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer