Mae Sajid Javid, Canghellor San Steffan, yn bwriadu creu miliynau o ddarnau 50 ceiniog arbennig i nodi ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.

Mae e wedi gofyn i swyddogion ymchwilio i’r posibilrwydd, yn ôl y Sunday Telegraph.

Roedd cynllun gan ei ragflaenydd Philip Hammond i greu hyd at 10,000 o ddarnau arbennig, a’u gwerthu am £10 yr un.

Ond mae cynllun diweddara’r Canghellor yn awgrymu’n gryf fod y Trysorlys bellach yn cefnogi Brexit yn llwyr, yn groes i rybudd Philip Hammond yn y swydd am effaith economaidd yr ymadawiad a’i wrthwynebiad i ymadawiad heb gytundeb.

Bydd y darnau newydd yn dwyn y geiriau “Cyfeillgarwch â phob cenedl”, ond bydd dyddiad yr ymadawiad hefyd yn ymddangos arnyn nhw.

Ond yn ôl y Telegraph, byddai angen sêl bendith y Cyfrin Gyngor cyn bwrw ati, ond dydyn nhw ddim yn bwriadu cwrdd tan fis Hydref.