Mae dau yn wynebu carchar ar ôl cyfaddef iddyn nhw gael mynediad anghyfreithlon at gamerâu CCTV er mwyn gwylio prawf post mortem y diweddar bêl-droediwr, Emiliano Sala.

Roedd yr ymosodwr, 28, newydd arwyddo i’r Adar Gleision pan blymiodd yr awyren yr oedd yn teithio arni i’r môr ger Guernsey ar Ionawr 21.

Cafodd ei gorff ei ganfod ar Chwefror 6, gyda phrawf post mortem yn cael ei gynnal arno yn Bournemouth y diwrnod wedyn.

Fe ymddangosodd Sherry Bray, 49, a Christopher Ashford, 62, gerbron Llys y Goron Swindon heddiw (dydd Gwener, Awst 9) lle y gwnaethon nhw gyfaddef i gyfres o gyhuddiadau.

Mae Christopher Ashford, o ardal Calne, wedi cyfaddef i dri achos o gael mynediad anghyfreithlon at ddeunydd cyfrifiadurol rhwng mis Chwefror 9 ac 11.

Mae Sherry Bray o ardal Corsham, hefyd wedi cyfaddef i dri achos o’r un drosedd, sy’n dyddio rhwng mis Ebrill y llynedd a mis Chwefror eleni.

Mae hi hefyd wedi cyfaddef i achosion o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl gorchymyn Christopher Ashford i gael gwared ar ei luniau ar Chwefror12, cyn mynd ymlaen i ddileu llun o gorff Emiliano Sala o’i ffôn symudol ymysg pethau eraill.

Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau ar y cyfamser cyn y byddai’n rhaid iddyn nhw ymddangos gerbron y llys eto ar Fedi 20.