Mae Jeremy Corbyn wedi galw ar Ysgrifennydd y Cabinet Syr Mark Sedwill i ymyrryd i sicrhau na fydd Boris Johnson yn cael bwrw ymlaen gyda Brexit heb gytundeb os oes etholiad cyffredinol.

Dywedodd yr arweinydd Llafur y byddai’n “ddigynsail, anghyfansoddiadol ac yn annemocrataidd.”

Daw ei sylwadau wrth i’r Prif Weinidog gyhoeddi rheolau mewnfudo newydd er mwyn ei gwneud yn haws i wyddonwyr blaenllaw ddod i fyw a gweithio yng ngwledydd Prydain wedi Brexit.

Yn ôl adroddiadau fe allai Boris Johnson geisio parhau yn ei swydd yn ddigon hir er mwyn sicrhau bod gwledydd Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn iddo gynnal etholiad cyffredinol, os yw’n colli pleidlais o ddiffyg hyder pan fydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd ym mis Medi.

Ar hyn o bryd mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn Hydref 31.

Os yw Boris Johnson yn colli pleidlais o ddiffyg hyder byddai ganddo 14 diwrnod i ennill pleidlais arall ac os nad oes modd ffurfio llywodraeth arall, byddai’n wynebu etholiad cyffredinol.

Mewn llythyr at Syr Mark Sedwill mae Jeremy Corbyn wedi galw arno i geisio ymestyn Erthygl 50 er mwyn caniatáu i bleidleiswyr benderfynu ar y mater, os yw’n debygol bod gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb pan fydd etholiad cyffredinol yn cael ei chynnal.

Ond mae Brexitwyr yn dadlau bod y Senedd eisoes wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ac wedi pasio deddfwriaeth yn gosod amserlen ar gyfer gadael ar Hydref 31.