Roedd y Blaid Lafur wedi colli 46,000 o aelodau yn ystod 2018 – hynny cyn i’r anniddigrwydd mawr diweddar ddechrau tros wrth-Semitiaeth ac agwedd yr arweinyddiaeth at Brexit.

Ond, gyda mwy na hanner miliwn o aelodau erbyn mis Rhagfyr, hi oedd y fwya’ o bell ffordd o bleidiau gwleidyddol gwledydd Prydain.

Hi hefyd oedd wedi llwyddo i godi mwya’ o arian yn ystod y flwyddyn – £45.6 miliwn o’i gymharu â £34.2 miliwn y Ceidwadwyr.

Y Comisiwn Etholiadol sydd yn cyhoeddi’r ffigurau blynyddol ond does dim ffigurau swyddogol ar gael ar gyfer aelodaeth y Ceidwadwyr – maen nhw’n honni cymaint â 180,000.

Roedd nifer aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi syrthio hefyd ond maen nhw’n hawlio cynnydd sylweddol yn ystod y misoedd diwetha’.