Mae iard longau yn ninas Belfast lle cafodd y Titanic ei hadeiladu ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, ar fin mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae Harland and Wolff, un o frandiau hynaf Gogledd Iwerddon, yn wynebu cau wrth i’r cwmni o Norwy sydd yn ei berchen – Dolphin Drilling – wynebu trafferthion.

Mae gweithwyr wedi meddiannu’r iard longau enwog ers wythnos fel rhan o ymgyrch i achub y lle, a bydd yn cau am y tro olaf am 5.15yp heddiw (dydd Llun, Awst 5).

Mae’r gweithwyr yn galw ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd, ond mae’r alwad honno wedi cael ei gwrthod.

Roedd yr adeiladwr llongau yn cyflogi dros 30,000 o bobol ar un adeg, ond erbyn hyn mae’r gweithlu wedi gostwng i tua 125.

Yn ystod y degawdau diwethaf, mae’r iard wedi bod yn canolbwyntio mwy ar brosiectau sy’n ymwneud ag ynni gwynt a pheirianneg forol, yn hytrach na llongau.