Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref newydd San Steffan, yn gwadu ei bod hi o blaid ail-gyflwyno’r gosb eithaf, ond mae’n dweud ei bod hi am i droseddwyr “deimlo ofn”.

Daw ei sylwadau yn ei chyfweliad cyntaf ers iddi gael ei phenodi’n aelod o Gabinet Boris Johnson.

Mae hi hefyd yn addo mynd i’r afael â thorcyfraith ar ôl i’r prif weinidog newydd ymrwymo i sicrhau 20,000 yn rhagor o blismyn.

“A bod yn blwmp ac yn blaen, gyda mwy o blismyn ar hyd y lle a mwy o bresenoldeb gan yr heddlu, rwy am i [droseddwyr] deimlo ofn wrth feddwl am droseddu,” meddai wrth y Daily Mail.

Yn 2006, dywedodd hi ei bod hi o blaid “y gosb eithaf” ar gyfer y troseddau gwaethaf, ac roedd hi o blaid y fath gosb yn ystod ymddangosiad ar banel Question Time y BBC yn 2011.

“Dw i erioed wedi dweud fy mod i’n gefnogwr brwd ohoni ac mae [yr hyn ddywedodd hi] yn cael ei gymryd allan o’i gyd-destun dro ar ôl tro,” meddai.

Mae hi wedi cael ei chyhuddo gan y Democratiaid Rhyddfrydol o fod ymhell oddi wrth realiti’r sefyllfa.